![]() |
|

| Bydd
amryw ohonoch wedi gweld yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru y faner
sidan ysblennydd o’r 1900au cynnar, y ddol fwdw a gwrthrychau eraill a
oedd yn gysylltiedig a thwf y mudiad dros Hawlfreinio Merched.
Disgwylir i’r sgwrs hon ychwanegu’n sylweddol at ein gwybodaeth am
agwedd ar hanes Cymru a gafodd ei hesgeuluso, wrth drafod ein
cymdeithasau hawliau merched yn y cyfnod Edwardaidd, y gwrthwynebiad
i’w hymgyrch, a dylanwad y Rhyfel Byd Cyntaf. A chanddo dros 30ain mlynedd o brofiad fel cyn-ddarlithydd hanes ac addysgwr tra uchel ei barch yn y sector dros 16 o fewn i amryw sefydliadau yn Sir Caerffili, mae Ryland ar ôl ymddeol wedi parhau i ymchwilio ym maes etholfraint merched. Drwy gyfrwng ei lyfr, ‘The Women’s Suffrage Movement in Wales 1866-1928’ a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, a llu o erthyglau mewn cylchgronau academaidd, enillodd enw fel awdurdod yn ei faes dewisol. Mae’n dal i fyw yng Nghrughywel, lle cafodd ei eni a’i fagu, ac mae’n gricedwr dawnus sy’n gapten ar dîm 60+ Cymru (neu’r Dreigiau Deinosoraidd!) |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngol hwn, llenwch y daflen isod a’i hanfon erbyn Dydd Gwener 17 Hydref gyda’ch siec at: Janet Jones, Brayton, Creigiau Cardiff CF15 9NN erbyn dydd Mercher Hydref 17. (ffôn: 029 2089 0216 e-bost: peterjanbrayton@gmail.com).
I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Ryland Wallace: ‘The Suffragettes and Wales’ Dydd Sadwrn 20 Hydref 2018 am 10.30yb yn Ystafelloedd Oriel, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf bod fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |