![]() |
|

| A
yw seintiau cynnar Cymru yn cyfrif o gwbl yn y Gymru gyfoes – a phwy
oedd y rhain beth bynnag? Dowch i ddysgu rhagor amdanynt yn y sgwrs hon
gan Dr Gerald Morgan, a gyflawnodd gwaith ymchwil helaeth ar yr agwedd
niwlog hyn o hanes Cymru, gan wahaniaethu’n ddeheuig rhwng ffaith a
chwedl. Ac yntau gynt yn brifathro ar ddwy ysgol uwchradd yn eu tro,yn ddarlithydd prifysgol, ac yn awdur toreithiog yn nwy iaith Cymru ar amrywiol weddau ar hanes ein gwlad, mae gan Dr Morgan lyfrgell bersonol dra sylweddol a gasglwyd ar draws blynyddoedd. Ar gyfrolau hon, a’u dylanwad ar ei fywyd, y seiliwyd ei hunangofiant Cymro a’i Lyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at: Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA (ebost: annsaer15@gmail.com ffôn: 029 2056 2756). I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Dr Gerald Morgan: ‘The Early Welsh Saints’ Dydd Sadwrn 17 Chwefror 2018 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |