West
Somerset Railway yw’r rheilffordd treftadaeth lled safonol hiraf ym
Mhrydain. Mae’n rhedeg ugain milltir drwy deg orsedd, o Bishop Lydeard
ger Taunton i Minehead, trwy gefn gwlad hardd Gwlad yr Haf. Caiff
coffi a bisgedi eu gweini ar y trên, yn rhan o gost y daith.
Mae Dunster yn bentref prydferth swynol, gyda llawer o lefydd diddorol
i’w gweld, gan gynnwys y Farchnad Edafedd sy’n adeilad crwn hen iawn yn
yr Heol Fawr ac eglwys a gerddi Sant George. Yn y pentref mae llawer o
siopau gan gynnwys siop lyfrau a siop hen bethau. Mae dewis eang o
lefydd i fwyta, yn cynnwys bwyty gwesty’r Lutterell (gwell archebu
ymlaen llaw) a nifer o fannau llai costus.
Mae Castell Dunster a’i erddi yn edrych dros y pentref, ac yn werth eu
gweld. Cymerodd teulu Lutterell a oedd yn ei berchen rhan amlwg yn y
Rhyfel Cartref a daeth yn rhan o’r Ymddiriedaeth Genedlaethol yn 1949.
Mae’r gerddi yn eang ac yn llawn llwyni a blodau diddorol. Mae’r daith
o’r Heol Fawr i’r Castell yn dringo rhiw serth, tua hanner milltir o
hyd. Mae bws gwennol yn rhedeg yn rheolaidd o’r Canolfan Gwybodaeth /
Swyddfa Dicedi i’r Castell, ond mae rhiw tua 70 llath i’w ddringo i
fynd ato, neu gallech gymryd llwybr ychydig yn hirach ond yn llai serth
o West Street.
Dyma raglen y dydd; 8.15 Gadael Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Parc Cathays
8.30 Codi teithwyr yn Wild Gardens Road, Parc y Rhath
10.45 Cyrraedd Bishop Lydeard i fynd ar y West Somerset Railway am 11.05.
12.20 Cyrraedd Gorsedd Dunster, lle bydd y bws
yn mynd â ni i bentre Dunster a’n gostwng ar yr Heol Fawr.
12.30- 4.15 Trefniadau cinio eich hunan. Ar ôl cinio, bydd amser i edrych ar fannau o ddiddordeb
ym mhentre Dunster a/neu Castell Dunster a’r Gerddi (Ymddiriedaeth
Genedlaethol)
4.15 (yn brydlon) Gadael Dunster o’r lle gostwng ar High Street
6.30pm (tua) Cyrraedd yn ôl yng Ngaerdydd.
Cost y diwrnod sy’n cynnwys y bws, taith ar y rheilffordd, coffi a bisgedi ar y tren, a tip y gyrrwr yw £35.00.
I ymuno â ni, anfonwch siec, yn daladwy i : ‘Cyfeillion Amgueddfa Cymru’ a ffurflen wedi’i llenwi at:
Richard Carter, 5 The Close, Llanishen, Caerdydd, CF14 5NG
E-bost: richard.carter@friendsmuseumwales.org.uk ;
Ffôn: 029 2076 5177 ; Ffôn symudol:
07921811996.
Os nad ydych wedi cynnwys cyfeiriad e-bost neu os ydych am dderbyn
tocyn blaenoriaeth am daith bellach petai'r daith hon wedi'i
ddros-dansgrifio, amgaewch amlen hunan-gyfeiriedig os gwelwch yn dda.
|
|
At: Gyfeillion Amgueddfa Cymru
Ymweliad i’r West Somerset Railway a Dunster, Dydd Mercher 10 Mehefin 2015
Enw________________________________________________________________
Cyfeiriad____________________________________________________________________________________
Côd post__________________ Ffôn __________________ E-bost _____________________________________
Cadwch _____ lle ar gyfer y digwyddiad uchod os gwelwch yn
dda. Amgaeaf siec am £_____
(£35.00 y pen)
Byddaf / Byddwn yn cwrdd â’r bws:
o flaen Amgueddfa Cymru, Parc Cathays ____ yn Wild Gardens Road, Parc y Rhath ____
Yr wyf/ydym yn cadarnhau aelodaeth o’r Cyffeillion Amgueddfa Cymru _______________
|