![]() |
|

| Hwyrach
nad yw amryw o aelodau’r Cyfeillion yn ymwybodol o’r cyswllt arbennig
rhwng Iolo Morganwg ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a gynhelir eleni
yma yng Nghaerdydd. Yn y sgwrs hon bydd yr Athro Geraint Jenkins yn
olrhain sut yr arweiniodd meddylfryd creadigol Iolo at sefydlu
seremonïau a defodau Gorsedd y Beirdd, ac yn asesu ei gyfraniad tuag at
Adfywiad Celtaidd y ddeunawfed ganrif. Ac yntau gyda’r mwyaf blaenllaw o haneswyr Cymreig nodedig yr hanner canrif diwethaf, bu Dr Jenkins gynt yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, sefydliad clodfawr ar draws gwledydd, ar ôl treulio cyfnod fel Athro Hanes Cymru yn y Brifysgol yno. Bu hefyd yn Gadeirydd a Chyfarwyddwr Ymchwil y Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Mae ar hyn o bryd yn aelod o Fwrdd yr Academi Brydeinig; cyhoeddodd yn helaeth ar Hanes Cymru yn Gynnar a Chyfoes, ac mae’n frwd o blaid cynnal prosiectau ymchwil cydweithiol. Rhoes un o’r cyfryw gynlluniau sylw manwl i Ddiwylliant Gweledol Cymru. Arweiniwyd hefyd ganddo gywaith a archwiliodd faes Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru, ac o dan ei olygyddiaeth ef, cyhoeddwyd ffrwyth yr ymchwil hwn gan Wasg Prifysgol Cymru. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at: Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA (ebost: annsaer15@gmail.com ffôn: 029 2056 2756). I arbed costau postio, ni fydd cydnabyddiaeth. Dewch yn llu, a dewch â’ch ffrindiau, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am £10 y pen. Croeso cynnes i bawb. Croeso cynnes i bawb. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Dr Geraint Jenkins: ‘Iolo Morganwg’ Dydd Sadwrn 7 Gorffennaf 2018 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |