![]() |
|

| Mae'r
sgwrs hon gan Andrew Renton, curadur arweiniol ar y cyd o'r 'KIZUNA:
Japan | Wales | Design' yn cyd-fynd â'i agor i'r cyhoedd yn gyffredinol
ar 16eg Mehefin. Rydym yn ddiolchgar iawn i Andrew am gytuno i roi'r
sgwrs hon i'r Cyfeillion ar y diwrnod arbennig hwn. Ysgrifennodd Andrew y canlynol i ddisgrifio'r arddangosfa. "Bydd yr arddangosfa yn dangos gwrthrychau Siapan o'r 1600au hyd heddiw, ac yn edrych i mewn i ddylanwad celf a dylunio hanesyddol Siapaneaidd ar ddiwylliant celf a dylunio Japan gyfoes. Fe wnaiff hyn o safbwynt Cymru, gan ddangos sut mae Cymru wedi chwarae rhan yn y rhyngweithio hirsefydlog rhwng Ewrop a Japan, o ddechrau'r 17eg ganrif hyd heddiw. Bydd yn cynnwys ystod o fathau o wrthrychau, o serameg a phrintiau i decstilau a dodrefn i ddyluniau cyfoes. Nid yw rhai o'r rhain erioed wedi bod y tu allan i Japan o'r blaen, tra bydd eraill yn dod o gasgliadau'r Amgueddfa eu hunain ac o gasgliadau ledled Cymru." Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni i glywed am yr arddangosfa hon sydd yn hynod nodedig i'r amgueddfa. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at: Janet Jones, Brayton, Heol Llanilltud, Criegiau, Caerdydd CF15 9NN Ffôn: 02920 890216 I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Dr Andrew Renton: ‘Japan: past to present’ Dydd Sadwrn 16 Mehefin 2018 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf bod fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |