Byddwch
yn rhydd i dywys eich hunain o gwmpas Rhydychen unwaith eto eleni yn
ein hymweliad blynyddol i Rydychen. Cewch gyfle arall i ymweld â'r
amrywiol amgueddfeydd ac arddangosfeydd yn ogystal ag amrywiaeth da o
lefydd am fwyd a diod. Bydd galwad coffi ar y ffordd yn Nhafarn y Compass yn Tormorton.
Mae'r
man gollwng yn Amgueddfa'r Ashmolean yn cynnig cyfle i fynychu'r
arddangosfa "Degas to Picasso" sy'n rhoi manylion am gynnydd
Moderniaeth yn Ffrainc. Mae'r stori yn dilyn trywydd yr artistiaid
Rhamantaidd - David, Gericault a Delacroix - i arbrofion arloesol
Picasso, Braque a'r brodyr Duchamp. Pris mynediad i'r arddangosfa yw
£10. Mae'n rhaid enwebu amser ymlaen llaw i weld yr arddangosfa ac
rydym yn awgrymu archebu ar gyfer taith 12:30. Mae'r arddangosfeydd
eraill yno ar hyn o bryd yn cynnwys 'Etifeddiaeth Alecsander Fawr' ar
ddatblygiad un o'r sustemau arian cyfred ryngwladol gyntaf, hefyd
Mynydd Fuji gan Hiroshige. Mae mynediad i'r ddau yn rhad ac am ddim.
Mae bwyty yn nho'r amgueddfa.
Mae teithiau dan arweiniad gwirfyddolwyr yn cael eu cynnal yn
Amgueddfa Pitt Rivers ar ddydd Mercher am 14.30 a 15.15. Maent yn rhad
ac am ddim ac nid oes angen archebu lle. Ceir mynediad i'r Amgueddfa
trwy adran Hanes Natur Amgueddfa Prifysgol Rhydychen, sy'n gartref
casgliadau gwyddonol y Brifysgol sŵolegol, sbesimenau entomolegol,
paleontological a mwynegol cronedig yn ystod y tair canrif ddiwethaf.
Yn Llyfrgell Bodley mae amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys:
Llosgfynyddoedd .
Yn yr arddangosfa hon cewch ddarganfod detholiad trawiadol o
ddisgrifiadau llygad dystion, arsylwadau gwyddonol a gwaith celf sy'n
olrhain sut mae ein dealltwriaeth o losgfynyddoedd wedi datblygu dros y
ddwy fil o flynyddoedd diwethaf.
Trysorau Slafonaidd
Mae'r arddangosfa'n dangos wyddorion, ysgrifennu, a'r cydadwaith rhwng gair a delwedd.
Dyma raglen y dydd; 8.30 yb. Gadael blaen Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym Mharc Cathays.
8.45 yb. Gadael Wild Gardens Road, CF23 5QW, ar ochr ogleddol Llyn Parc y Rhath. 9.45 yb. Coffi a bisgedi yn The Compass Inn, Tormarton.
11.15 yb. Cyrraedd y man disgyn/codi wrth ochr Amgueddfa yr Ashmolean. 5.00 yh. Gadael am Gaerdydd.
Cyfanswm
y tâl am y diwrnod yw £ 25.00 sy'n cynnwys coffi a bisgedi, y goets ac arian rhodd y gyrrwr.
I
ymuno â ni anfonwch eich siec yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa
Genedlaethol Cymru' a ffurflen wedi'i chwblhau os gwelwch yn dda at;
Dorn Swaffield, Lower
House Barns, Michaelston-le-Pit, Dinas Powys, Bro Morgannwg. CF64
4HE.
Ffôn: 029 2051 3956. E-byst at Dorn.swaffield@gmail.com.
Cofiwch
amgáu amlen barod â stamp dim ond os nad oes gennych
gyfeiriad E-bost.
|