![]() |
|

| Traddodir
y sgwrs hon gan un o’n siaradwyr mwyaf difyr a dysgedig, Prys Morgan.
Mae ef yn Athro Emeritws Hanes Cymru ym Mhrifysgol Abertawe ac yn
arbenigo ar hanes y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’n awdur llawer o lyfrau ac erthyglau, cyfrannwr cyson i raglenni
radio a theledu, ac yn gydolygydd y gyfrol ddiweddaraf yng nghyfres
Hanes Sir Gwent. Ar hyn o bryd ef yw Llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y
Cymmrodorion, yn ogystal â Chymdeithas Archaeolegol y Cambriaid. Ef
hefyd oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Yn ei sgwrs, bydd yr Athro Morgan yn cyfeirio at rai o ffigurau’r Dadeni yn Nyffryn Clwyd a’i gyffiniau o fewn i’r cyfnod, amryw ohonynt yn eithriadol gyfoethog, ac yn rhan o ddiwylliant ehangach a soffistigedig Ewrop, tra hefyd yn arddel eu treftadaeth Gymreig. Er mai gwlad gymharol fechan a thlawd oedd Cymru at ei gilydd, ceid yn nhai mawrion y gogledd-ddwyrain wrthrychau drudfawr fel dysgl arian a phiser William Mostyn ( i’w gweld yn Oriel 10). Byddai’r gwesteion a fwytâi yn ei blasty yn gyfarwydd â syniadau a ffasiynau tu hwnt i ffiniau Cymru. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at: Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA (ffôn 029 2056 2756; ebost annsaer@talktalk.net) erbyn dydd Iau 14 Medi. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws), ac fe fydd croeso cynnes iddynt hwythau. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Yr Athro Emeritws Prys Morgan: ‘A Welsh Tuscany: the Renaissance in north-east Wales’ Sadwrn 16 Medi 2017 am 10.30yb yn Theatr Ddarlithio Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |