![]() |
|

| Yn
enedigol o Abertawe. mae Dianne Edwards yn palaeobotanydd sy'n Athro
Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn
ogystal â bod wedi derbyn nifer o wobrau academaidd o bob cwr o'r byd,
mae'n Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol; mae hi wedi bod yn Llywydd y
Gymdeithas Linnaeus a Phalaeontoleg, a derbyniodd CBE am wasanaethau i
Botaneg. Bydd ei sgwrs yn dangos sut y gall darganfyddiadau astudiaeth planhigion ffosil ddweud wrthym am hanes bywyd planhigion ar y Ddaear a sut y mae'n arwain at ymddangosiad y llystyfiant amrywiol anhygoel sy'n ein hamgylchynu ni heddiw. Bydd yn amlinellu eu rolau'n creu cyflenwadau ynni a'u defnyddiau fel offer i egluro hinsoddau yn y gorffennol ac i ddyddio creigiau. Mae wedi gweithio yng Nghymru a'r Gororau ers dros 50 mlynedd a bydd yn canolbwyntio ar yr adeg pan ddechreuodd planhigion amlhau ar dir - un o'r digwyddiadau pwysicaf hanes y Ddaear - a sut y maent yn effeithio ar esblygiad anifeiliaid daearol, priddoedd a hyd yn oed cyfansoddiad yr atmosffer. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at Janet Jones, Brayton, Llantwit Road, Creigiau, Cardiff CF15 9NN. Tel: 029 20890216. Email: janet.jones@friendsmuseumwales.org.uk erbyn dydd Mercher 15 Mawrth. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Nicholas Thornton: ‘Cedric Morris and his Circle’ Dydd Sadwrn 18 Mawrth 2017 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |