![]() |
|

| Roedd
Cedric Morris (1889-1982) yn un o arlunwyr pwysicaf yr ugeinfed ganrif.
Ac yntau wedi ei eni yn Abertawe, cafodd fywyd hynod a’i arweiniodd i
gymysgu â’r avant garde ym Mharis, helpu i sefydlu Cymdeithas
Celfyddydau Cyfoes Cymru, a chreu ysgol gelf idiosyncratig ar ffin
Suffolk-Essex. Trafodir y cyfnodau allweddol hyn yn ei fywyd ynghyd â’u
gyflawniadau fel arlunydd tirluniau, portreadau a blodau, yn ogystal
â’i ymroddiad parhaus i gelfyddydau a phobl Cymru. Mae gan Nicholas Thornton gyfrifoldeb arbennig dros gasgliadau ôl-1900 yr Amgueddfa. Ymhlith ei brif arddangosfeydd diweddar a seiliwyd ar y casgliadau hyn cafwyd Ni allaf ddianc rhag hon (2011), Pop and abstract (2013) a Poetry, Romanticism and Myth (2014). Cyn iddo symud i Gymru roedd Nicholas yn Guradur Celf Fodern a Chyfoes yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Norwich, lle’r ymgymerodd â sawl prosiect arddangosfaol, gan gynnwys Cedric Morris and Lett Haines: Teaching Art and Life, a ddaeth ar daith i AC / NMW yn 2003. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA (ffôn 029 2056 2756; ebost annsaer@talktalk.net) erbyn dydd Mercher 15 Chwefror. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Nicholas Thornton: ‘Cedric Morris and his Circle’ Dydd Sadwrn 18 Chwefror 2017 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |