![]() |
|

| Ymddeolodd
Keith ym mis Rhagfyr 2004 ar ôl dros 40 mlynedd yn y GIG gan
wasanaethu'r rhan fwyaf o'i yrfa fel uwch-reolwr a gweinyddydd yn
Nghaerdydd. Yn ystod y cyfranogiad sylweddol hwn, bu'n gweithio yn neu'n
gyfrifol am reoli'r rhan fwyaf o'r ysbytai yng Nghaerdydd. Ers ymddeol,
mae Keith wedi cymryd diddordeb arbennig mewn astudio datblygiad a
hanes y sefydliadau hyn, llawer ohonynt bellach wedi diflannu neu wedi
newid defnydd. Gyda llawer o hen ffotograffau ac weithiau ffilmiau, mae sgwrs Keith yn cynnwys ystod y cyfleusterau ysbyty sydd wedi bodoli yn ardal Caerdydd, o'r cynharaf a oedd yn ysbyty wahanglwyfus a sefydlwyd yn y 14eg ganrif hyd at y mwyaf diweddar, gan cynnwys Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae gan y rhan fwyaf o bobl atgofion o fod yn gleifion, yn ymweld â neu'n gweithio yn Lansdowne, Glan Ely, Dewi Sant, Ysbyty Brenhinol Caerdydd, a nifer o'r llefydd eraill yn yr ardal sydd wedi darparu pobl Caerdydd a De Cymru â gofal iechyd dros y blynyddoedd. Er y bydd Keith yn rhoi yr holl ffeithiau a ffigurau priodol ei wrandawyr, bydd hefyd yn ysgafnhau'r sgwrs gyda hanesion a myfyrdodau oddi wrth ei brofiadau personol o sut oedd bywyd mewn ysbytai cyn ac ar ôl sefydlu'r GIG. Mae'n hoffi cynnwys ei gynulleidfa yn y sgwrs oherwydd bod gan bawb stori i'w hadrodd am eu cysylltiadau eu hunain gyda'n hysbytai sydd yn creu sesiwn fywiog a thaith ryfeddol i lawr lôn cof. |
||
| Y tâl mynediad, i gynnwys
coffi a bisgedi yn Ystafelloedd Oriel ar ôl y sgwrs, yw £8 i’r
Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y gostyngiad tâl, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec erbyn dydd Mercher 18 Ionawr at: Emrys Jones, 2 Pembroke Close, DINAS POWYS, Vale of Glamorgan, CF64 4PA. Tel: 029 2051 2812. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru The History of Hospitals in the Cardiff Area Sgwrs gan Keith Moger OBE Dydd Sadwrn 21 Ionawr 2017 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Cenedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa Cymru'). Enw(au) ……………………………………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………………………………………………………………………………. Cod post …...………………. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
English |