![]() |
|

| Rosie
James yw Prif Swyddog Tirwedd Parciau a Gwasanaethau Chwaraeon
Caerdydd. Mae hi wedi gwneud astudiaeth helaeth o hanes y parciau a'r
gerddi y mae bellach yn goruchwylio drostynt a bydd yn cyflwyno sgwrs
darluniadol diddorol iawn ar eu hanes a'u datblygiad. Mae gan barciau hyfryd Caerdydd ddyled mawr i'r teulu a'u creodd yn y 1890au a'r 1900au, sef Andrew Pettigrew a'i dri mab William, Hugh ac Andrew. Bu William Pettigrew a'i frawd iau Andrew yn weithgar fel Prif Arddwr, Uwcharolygydd Parciau, ac wedyn Prif Swyddog Parciau, yn barhaus o 1891 i 1936. Gosododd eu tad, a elwir hefyd yn Andrew Pettigrew, erddi preifat Castell Caerdydd i Ardalydd Bute cyn iddynt ddod i berchnogaeth gyhoeddus fel Parc Bute. Ysgrifennodd Andrew Pettigrew yr iengaf hanes parciau Caerdydd nas cyhoeddwyd, gan roi llawer o wybodaeth hanesyddol y mae Rosie wedi'i defnyddio yn ei hymchwil. Mae hon yn sgwrs na ddylid ei golli. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at
I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Rosie James: ‘The Pettigrew family’s influence on Cardiff Parks’ Dydd Sadwrn 8 Ebrill 2017 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru). Enw(au) ………………………......……………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………….....……………………………………………………………………. Cod post …...………….....……. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… Cadarnhaf fy aelodaeth wedi ei thalu’n llawn o Cyfeillion Amgueddfa Cymru. |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |