Byddwch
yn rhydd i dywys eich hunain o gwmpas Rhydychen unwaith eto eleni yn
ein hymweliad blynyddol i Rydychen. Cewch gyfle arall i ymweld â'r
amrywiol amgueddfeydd ac arddangosfeydd yn ogystal ag amrywiaeth da o
lefydd am fwyd a diod.
Amgueddfa Ashmolean yw
amgueddfa hynaf Prydain sydd wedi cael adnewyddiad canmoledig yn
ddiweddar gan gynnwys bwyty yn y to. Wedi'i leoli o fewn adeilad hardd
gyferbyn â'r Randolph Hotel, mae ynddo gasgliadau pwysig
o baentiadau, darnau arian, offerynnau cerdd, hynafiaethau a
cherfluniau o dduwiau a duwiesau.
Mae Amgueddfa Pitt Rivers, un o atyniadau mwyaf poblogaidd
Rhydychen, yn enwog am ei awyrgylch cyfnod cynt a'i gasgliadau rhagorol
o bedwar ban byd, o'r gorffennol a'r presennol. Cyrhaeddir mynedfa
Amgueddfa Pitt Rivers drwy Amgueddfa Hanes Natur Prifysgol Rhydychen.
Amgueddfa
Hanes Natur Prifysgol Rhydychen yw cartref casgliadau gwyddonol
adrannau sŵolegol, entomoleg sbesimenau, paleontoleg a mwynegol y
casglwyd yn ystod y tair canrif ddiwethaf.
Mae Amgueddfa
Gwasg Prifysgol Rhydychen yn cadw ac yn arddangos llyfrau hanesyddol,
dogfennau ac offer argraffu o Wasg Prifysgol Rhydychen. Mae'n dŷ
cyhoeddi rhyngwladol ac yn adran o brifysgol Rhydychen sydd ar agor ar
gyfer teithiau 30 munud drwy apwyntiad yn unig, rhwng 10:00-16:00.
Yn
Llyfrgell Bodley mae amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys sgwrs rhad
ac am ddim yn Llyfrgell Weston ar y 'Sheldon Tapestry Map'. Mae amrywiaeth o deithiau
sy'n addas i bob cyllideb: ewch at Quad yr Hen Ysgol i weld beth sydd
ar gael.
Dyma raglen y dydd; 9.00 yb. Gadael blaen Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym Mharc Cathays.
9.15 yb. Gadael Wild Gardens Road, CF23 5QW, ar ochr ogleddol Llyn Parc y Rhath. 10.15 yb. Coffi a bisgedi yn The Compass Inn, Tormarton.
11.45 yb. Cyrraedd y man disgyn/codi wrth ochr Amgueddfa yr Ashmolean. 5.00 yh. Gadael am Gaerdydd.
Cyfanswm
y tâl am y diwrnod yw £ 25.00 sy'n cynnwys coffi a bisgedi, y goets ac arian rhodd y gyrrwr.
I
ymuno â ni anfonwch eich siec yn daladwy i 'Cyfeillion Amgueddfa
Genedlaethol Cymru' a ffurflen wedi'i chwblhau os gwelwch yn dda at;
Dorn Swaffield, Lower
House Barns, Michaelston-le-Pit, Dinas Powys, Bro Morgannwg. CF64
4HE.
Ffôn: 029 2051 3956. E-byst at “Dorn.swaffield@gmail.com”.
Cofiwch
amgáu amlen barod â stamp dim ond os nad oes gennych
gyfeiriad E-bost.
|