![]() |
|


| Sefydlwyd y Barber Institute of Fine Arts
yn 1932 er cof am Syr Henry Barber 'ar gyfer astudio a hyrwyddo celf a
cherddoriaeth'. Mae wedi'i lleoli yn un o Adeiladau Art Deco gorau
Birmingham ar gampws Prifysgol Birmingham, gan gynnwys neuadd gyngerdd
ac orielau celf yn ogystal â llyfrgell a neuaddau darlith. Cynhwysa'i
orielau casgliadau rhagorol o arwyddocâd rhyngwladol, gan gynnwys
llawer o enwau amlycaf Celf y Gorllewin. Mae'r Sefydliad yn mwynhau enw
da fel un o orielau bach celf gorau Ewrop. Mae Winterbourne wedi ei leoli nepell o'r Barber Institute ac mae'n enghraifft brin sydd wedi goroesi o fila faestrefol a gardd o fynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, yn dilyn arddull y mudiad Celf a Chrefft. Cafodd ei adeiladu yn 1903 ar gyfer John a Margaret Nettlefold, o Guest Keen & Nettlefold, i fod eu cartref teuluol. Cynlluniodd Margaret Nettlefold yr ardd, gydag ysbrydoliaeth dyluniadau Gertrude Jekyll. Cymynroddwyd y tŷ gyda'i ardd i Brifysgol Birmingham yn 1944; daeth yr ardd yn Ardd Fotaneg y Brifysgol a chafodd y tŷ ei ddefnyddio at ddibenion addysgu ac fel atodiad i un o'r Neuaddau Preswyl. Adferwyd y tŷ yn ddiweddar i'w hen ysblander ac mae ei ystafelloedd arddangos yn dod â hanes ei cyn perchnogion yn fyw; mae hefyd 7 erw o erddi i archwilio. Fe'ch cynghorir i wisgo esgidiau synhwyrol gan fod rhai llwybrau yn anwastad a gallant fod yn llithrig pan yn wlyb. Peidiwch ag anghofio eich cerdyn RHS neu HHA os oes gennych un. Amserlen 8.15yb Bws yn gadael Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays. 8.30yb Codi teithwyr yn Wild Gardens Road, Parc y Rhath. 11.00yb (tua) Cyrraedd y Barber Institute - darberir coffi a bisgedi. 11.30yb Taith tywys drwy'r casgliad, gydag amser rhydd i grwydro. 1.00yh Gadael y Barber Institute a cherdded i Winterbourne (5 i 10 munud) 1.15yh Cinio bwffe yn Winterbourne. 2.00yh Amser rhydd i grwydro drwy’r tŷ a'r gerddi. 4.00yh Gadael am Gaerdydd: cyrraedd tua 6.30yh (yn dibynnu ar draffig y ffordd) Cyfanswm cost y diwrnod fydd £38, sy'n cynnwys y taith bws ac arian rhodd y gyrrwr, mynediad, taith tywys a choffi a bisgedi yn y Barber Institute, mynediad a chinio bwffe yn Winterbourne . Sylwch bod aelodau'r RHS neu HHA yn cael mynediad am ddim i Winterbourne ac felly gostyngir y pris i £33.55 iddyntynt. I ymuno â'r ymweliad, llenwch y ffurflen isod gan gynnwys siec yn daladwy i Gyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru am y swm priodol, a'i anfon at: Janet Jones, Brayton, Creigiau, Cardiff CF15 9NN. Ffôn: 029 20890216 ebost: peter@jones3932.fsnet.co.uk Mobeil: 07592 812039. Amgaewch amlen barod â stamp dim ond os nad ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost neu os ydych yn dymuno derbyn taleb flaenoriaeth petai'r ymweliad yn cael ei gordanysgrifio. |
| YMWELIAD Â BIRMINGHAM DYDD MAWRTH. MEDI 27ain 2016 Enw(au) ______________________________________________________________________________________________________ Cyfeiriad_______________________________________________________________________________________ ___________________________________________________________________ Cod post ____________________ Rhif ffôn. ____________________________ Rhif Mobeil ____________________________ Ebost____________________________ · Cadwch _____ (l)le am yr ymweliad uchod. Amgaeaf siec am £________ yn daladwy i Gyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru (£38 y person neu £33.55 am aelodau RHS neu HHA) ac amlen hunangyfeiriedig â stamp os nad oes gennych e-bost. · Dymunaf/wn dal y bws yn: Parc Cathays________ Wild Gardens Road, Parc y Rhath ______ · Cadarnhaf/wn fod wedi cofrertu fel aelod(au) Cyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru · Rwyf/Rydym / Nac wyf/Nac ydym yn aelod(au) o RHS / HHA |