Amdanom ni
Sgwrs
Digwyddiadau Ymunwch
Saesneg


Dydd Mawrth Mai 17 i Ddydd Iau Mai 19 2016

Taith i weld Ascott House,
Woburn Abbey, Bletchley Park
a 78 Derngate, Nottingham

Ascott House   Delwedd: www.ascottestate.co.uk/

Woburn Abbey    Delwedd: www.woburnabbey.co.uk/

Bletchley Park    IDelwedd: www.bbc.co.uk

78 Derngate, Nottingham   Delwedd: : www.tripadvisor.co.uk



Dydd Mawrth 17 Mai 8.15  Bydd y bws yn gadael Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Byddwn yn stopio am goffi yn Faringdon, tref farchnad ddiddorol lle mae llawer o gaffis lle gallwch brynu coffi. Cyrhaeddwn Ascott House am ginio ysgafn yn yr ystafell de. Mae  Ascott House yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif a rhoddwyd ef i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan y Rothschilds yn 1949 ac mae'n dal i fod yn gartref cefn gwlad heddiw. Ynddo mae casgliad eithriadol o beintiadau, dodrefn cain a phorslen dwyreiniol gwych. Mae yna hefyd 30 erw o erddi ffurfiol a naturiol.

Dydd Mercher 18
Byddwn yn ymweld â Woburn Abbey yn y bore. Yn wreiddiol roedd yn fynachlog a rhoddwyd gan Edward VI i'r teulu Russell yn 1547. Mae  Woburn Abbey a'r teulu Russell wedi bod yn ganolog i gynllwynio cymdeithasol a gwleidyddol ers canrifoedd ac mae Dug a Duges Bedford heddiw'n gwneud eu heffaith eu hunain ar y cartref teuluol diddorol hwn. Byddwn yn cael cinio yn Ystafell De'r Duges.
Yn y prynhawn byddwn yn teithio i Bletchley Park, cartref y Codebreakers ac unwaith gyfrinach fwyaf Prydain. Gallwn archwilio'r byd cyfrinachol o gytiau torri côd eiconig yr Ail Ryfel byd a'r amgueddfa sy'n gartref i'r Casgliad Enigma.

Dydd Iau 19 Cawn ymweld â 78 Derngate yn Northampton, yn wreiddiol Tŷ Sioraidd c1815. Dyma'r unig dŷ yn Lloegr i'w gael ei ddylunio a'u hailfodelu yn 1916 gan Charles Rennie Mackintosh. Hwn hefyd yw'r unig le yn y byd lle 'Gall arddulliau pensaernïol a thu aeddfed Mackintosh cael eu gweld yn eu lleoliad gwreiddiol.' Mae'r tu mewn yn cael ei ddisgrifio fel 'eithaf syfrdanol.'
 DS. Mae'r tŷ wedi ei osod ar bedwar llawr a gan fod y lifft wedi'i osod yn yr adeilad drws nesaf gall y rhai nad ydynt yn gallu dringo'r 12 o risiau rhwng bob un o'r 2 lawr ddim ond gweld y llawr gwaelod a'r llawr uchaf. Byddwn yn rhannu yn ddau grŵp, hanner yn cael taith o amgylch y tŷ tra bo'r lleill yn gallu prynu coffi yn y caffi neu edrych drwy'r yr oriel a siop ar y llawr gwaelod ac wedyn yn gyfnewid.
Byddwn yn gadael Northampton am 12 hanner dydd ac yn gyrru i'r Manor House Hotel, Moreton-in-Marsh am ginio. Ar ôl cinio byddwn yn gwneud ein ffordd yn ôl i Gaerdydd, yn anelu at gyrraedd am 5.30 - 6pm.

Mae'r gost yn cynnwys:
  • cinio, gwely a brecwast ar gyfer y ddwy noson yng Ngwesty'r Best Western yn Buckingham. Bydd gwydraid o win neu ddiod feddal yn cael ei gynnwys gyda swper bob nos;
  • cinio canol dydd ar bob diwrnod a phob tâl mynediad ac arian rhodd;
  • Aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol cofiwch ddod â'ch cardiau.
Cost y daith am 2 yn rhannu ystafell ddwbl neu ddeuol yw £ 320, neu £ 381 ar gyfer ystafell sengl; os nad ydych yn aelodau o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ychwanegwch £10.
Cyfeillion Amgueddfa Cymru   
Taith i weld Ascott House, Woburn Abbey, Bletchley Park  a 78 Derngate
Dydd Mawrth 17 Mai i Ddydd Iau 19 Mai 2016

Enw(au)..............................................................   Cyfeiriad.............................................................................................................................

............................................................................................................................................................................................................................

Côd Post  ..................................      Ffôn ..................................    Symudol   ..........................      E-bost   ..............................................

Cadwch  ...............  lle i mi/ni ar y daith os gwelwch yn dda.

Dymunaf / wn ystafell ddwbl / deuol / sengl ................................

Nodwch unrhyw anghenion ddeiategol  neu symudol       ……………………………………………………………………………

Amgaeaf siec (£100 y person, blaendal na cheir yn ôl) am £.............................., yn daladwy i Gyfeillion Amgueddfa Cymru ynghyd a'r ffurflen gofrestru hon at sylw Gwen Williams, 57, Beulah Rd, Rhiwbina, Cardiff. CF14 6LU
Tel. 029 20 620094    Mob. 07802 437316   Email: gwendolynw@tiscali.co.uk

Rhaid talu'r cyfraniad terfynnol erbyn Ebrill 10fed         Anfonwch amlen hunan-gyfeiriedig os nad oes gennych e-bost.
                  
 Cadarnhaf / fy mod yn aelod o'r Cyfeillion  ……………..      Rwyf / Rydym yn aelod(au) o'r Ymddiriaeth Genedlaethol  …………




Mae Cyfeillion Amgueddfa Cymru yn aelod cyswllt o Gymdeithas Cyfeillion Amgueddfeydd Prydain (BAfM)

Cliciwch yma os ydych am  ymuno â Chyfeillion yr Amgueddfa

Rhif cofrestru fel elusen 701990

Amdanom ni Digwyddiadau Gorffennol
Ymunwch
Saesneg