Amdanom ni
Sgwrs
Digwyddiadau Ymunwch
Saesneg



Sadwrn 18 Mehefin 2016
am 10.30yb yn Theatr Ddarlithio Reardon Smith,
Amgueddfa Cymru Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd  CF10 3NP


Athro Siwan Davies, Prifysgol Abertawe

Delwedd: www.swansea.ac.uk

‘Clues to Climate Change – Past, Present and Future’

Sgwrs gan yr Athro Siwan Davies, Prifysgol Abertawe


I unrhyw Gyfaill na ŵyr pa beth i’w feddwl ynglŷn â newid hinsawdd, gallai’r sgwrs hon fod yn arweiniol. Mae gan yr Athro Siwan Davies Gadair bersonol mewn Daearyddiaeth Ffisegol yn Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe. Fe gydweithiodd gyda phrifysgolion Copenhagen, Bangor a St Andrews i geisio deall achosion newid hinsawdd ar draws y canrifoedd. Roedd ei hetholiad yn ddiweddar i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydnabod nid yn unig ei chyflawniadau academaidd personol, ond hefyd ei safle fel ffigur atyniadol ac ysbrydolus ar gyfer merched sy’n dymuno cychwyn ar yrfa yn y gwyddorau.

Cafodd ei gwaith ar amrywioldeb hinsawdd yng ngorllewin Gwlad yr Iâ, a’i hastudiaethau ar gofnodion gwaddol llynnoedd, haenau lludw a ffrwydriadau folcanig yn yr Ynys Las a mannau eraill eu dogfennu mewn llu o gyhoeddiadau academaidd, ac edrychir arni fel un o arbenigwyr pennaf y byd yn ei maes. Yn ei sgwrs, bydd yr Athro Davies yn disgrifio sut y mae ei gwaith ditectif ar baleohinsoddau yn taflu goleuni ar destun cyfareddol a chyfoes newid hinsawdd, ddoe, heddiw ac yfory.
Y tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen llaw, neu £10 wrth y drws.

Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA (ffôn 029 2056 2756; ebost annsaer@talktalk.net) erbyn dydd Mercher 15 Mehefin.

Noder: os byddwch yn anfon cais am fwy nag un digwyddiad, anfonwch siec ar wahân am bob un, os gwelwch yn dda.

I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws).  Bydd croeso cynnes iddynt.

Cyfeillion Amgueddfa Cymru
 
Sgwrs gan yr Athro Siwan Davies: ‘Clues to Climate Change – Past, Present and Future’
20 Chwefror 2016 am 10.30 yb yn Theatr Ddarlithio Reardon Smith,
Parc Cathays, Caerdydd


Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru).

Enw(au) ………………………………………………………………………………………………

Cyfeiriad ……………………………………………………………………………………………….

Cod post …...………………. Ffôn ………………………. Ebost …………………………………



Lawrlwytho'r manylion hyn a ffurflen archebu   (rhaid i chi fod yn Gyfaill i dderbyn y pris gostyngedig)



Mae Cyfeillion Amgueddfa Cymru yn aelod cyswllt o Gymdeithas Cyfeillion Amgueddfeydd Prydain (BAfM)

Cliciwch yma os ydych am  ymuno â Chyfeillion yr Amgueddfa

Rhif cofrestru fel elusen 701990

Amdanom ni Digwyddiadau Gorffennol
Ymunwch
Saesneg