![]() |
|

| A
hithau’n frodor o Drefforest, astudiodd Morfydd Owen yng Ngholeg
Prifysgol Caerdydd a’r Academi Gerdd Frenhinol cyn sefydlu gyrfa fel
cantores, pianydd a chyfansoddwraig. Crewyd iddi statws chwedlonol gan
ei chyfeillachu cyfareddol gyda D.H. Lawrence ac Ezra Pound, ei
phriodas fregus â’r seicdreiddiwr Freudaidd Ernest Jones, a’i
marwolaeth anarferol yn 26 oed. Cyflwynir y sgwrs hon, sy’n cynnwys
delweddau archifyddol a recordiadau o gerddoriaeth Morfydd ynghyd â detholion o’i gohebiaeth, gan Dr Rhian Davies, ysgolhaig y mae ei gwaith ymchwil wedi ailennyn y sylw rhyngwladol a gawsai’r gyfansoddwraig gynt. Caiff Dr Davies ei chydnabod fel hanesydd blaengar ym maes diwylliant yr ugeinfed ganrif, ac mae’n ddarlledwraig gyson ar Radio Cymru, BBC Radio 3 a Classic FM. Cafodd ei gwaith curadurol fel Cyfarwyddydd Artistig Gwyliau Cerdd Gregynog ei glodfori gan y Guardian, y cylchgrawn Classical Music a’r Times. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA (ffôn 029 2056 2756; ebost annsaer@talktalk.net) erbyn dydd Mercher 17 Chwefror. Noder: os byddwch yn anfon cais am fwy nag un digwyddiad, anfonwch siec ar wahân am bob un, os gwelwch yn dda. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Dr Rhian Davies: ‘A refined and beautiful talent ’: (1891-1918) 20 Chwefror 2016 am 10.30 yb yn Theatr Ddarlithio Reardon Smith, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru). Enw(au) ……………………………………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………………………………………………………………………………. Cod post …...………………. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |