Mae
Arboretwm Westonbirt Arboretum yn Sir Gaerloyw ac fe'i sefydlwyd yn
1829 gan Robert Holford Stayner yn estyniad o barc a gerddi Tŷ
Westonbirt sydd heddiw yn ysgol i ferched. Mae'r 15,000 o goed sydd yno
(tua 2,500 gwahanol math) yn dod o Brydain, Tseina, Gogledd America,
Japan, Chile a mannau tymherus eraill. Er 1956 mae'r casgliad o goed a llwyni hanesyddol a rhyngwladol bwysig hwn wedi cael ei reoli gan y Comisiwn Coedwigedd.
Mae Westonbirt yn denu dros 350,000 o ymweliadau bob blwyddyn ac mae'n
byd-enwog am ei liwiau hydref ysblennydd. Cofiwch fod Westonbirt
yn leoliad allanol a bydd angen arnoch ddillad ac esgidiau sy'n addas i
gerdded!
Lleolir Amgueddfa Americanaidd Prydain yn Claverton Manor, tŷ
crand yng Ngwlad yr Haf, 2 filltir o ganol dinas Caerfaddon.
Agorodd i'r cyhoedd yn 1961 a dyma'r unig amgueddfa o gelf addurniadol
Americanaidd a gwerin sydd tu allan i'r Unol Daleithiau; mae'n eich
tywys ar daith drwy hanes America, o'i ymsefydlwyr cynnar i'r ugeinfed
ganrif. Gyda'i chasgliad rhyfeddol o gelfyddydau gwerin ac addurniadol,
mae'r Amgueddfa yn dangos natur amrywiol a chymhleth traddodiadau
Americanaidd. Mae ei chasgliad o ddodrefn, paentiadau, cwiltiau, arian,
a gwydr yn cael ei gyflwyno mewn cyfres o Ystafelloedd Cyfnod.
Arddangosir cwiltiau a thecstilau yn yr Ystafell Tecstilau ac mae'r
Arddangosfa Treftadaeth Americanaidd yn adrodd hanesion y Tadau
Sefydlu, Americanwyr Brodorol, a'r Rhyfel Cartref, drwy gyfres o
orielau rhyngweithiol. O'i 125 erw, mae 35 yn agored i ymwelwyr.
Amserlen
8.15 a.m. Gadael yr Agmueddfa Genedlaethol, Parc Cathays
8.30 a.m. Codi teithwyr yn Wild Gardens Road, Parc y Rhath
10.15 a.m. approx Cyrraedd Arboretwm Westonbirt
12.00 noon Gadael am Gaerfaddon am ginio (trefniadau eich hunan)
2.00 p.m. Gadael am Amgueddfa America
2.15 p.m. Cyrraedd Amgueddfa America
5.00 p.m. Gadael am Gaerdydd, yn cyrraedd tua 6.30 p.m.
Cost y dydd yw £35, sy'n cynnwys cost y bws, tip i'r gyrrwr a mynediad i Westonbirt ac Amgueddfa America.
Os hoffech ymuno â ni, a wnewch chi lenwi’r daflen isod a’i
dychwelyd gyda’ch siec (sy’n daladwy i ‘Cyfeillion Amgueddfa
Cymru’ ynghŷd ag amlen yn dwyn stamp os nad oes gennych
gyfeiriad ebost) at:
Janet Jones, Brayton, Creigiau, Cardiff CF15 9NN. Ffôn: 029 20890216
E-bost: peter@jones3932.fsnet.co.uk Mobeil: 07773406937
Cofiwch gynnwys amlen yn dwyn stamp os nad oes gennych
gyfeiriad ebost neu yr ydych am dderbyn tocynnau blaenoriaeth os nad ydych yn llwyddiannus.
|