Gwahoddwn Gyfeillion yr Amgueddfa i'r daith hynod ddiddorol hon dan arweiniad Madge O'Keefe, sy'n arbenigydd ar hen Eglwysi.
Mae Eglwys Sant Cadoc yng nghanol pentref bach Llancarfan ym Mro
Morgannwg. Yng nghyfnod hwyrach y Canol Oesoedd, roedd yr eglwys
sylweddol hon yn berchen i Abaty Caerloyw, ac mae ganddi gawg dŵr swyn
ac olion croglen sydd wedi'i addasu i fod yn reredos.
Yn 2008, darganfyddodd penseiri furlun yn yr eglwys o dan haenau
gwyngalch. Erbyn hyn, ar ôl chwe blynedd o waith adfer, mae
gwarchodwyr wedi datguddio delweddau hynod feiddgar o'r saith pechod
marwol, teulu brenhinol, ffiguryn marwolaeth erchyll, a'r hyn sydd
wedi'i ddisgrifio fel y darlun mwyaf ac ysblenyddaf o Sant Siôr
a'r Ddraig ag a welwyd erioed mewn eglwys ym Mhrydain.
Y ffordd hawddaf i gyrraedd Eglwys Sant Cadoc, Llancarfan yw i droi wrth yr arwydd i'r pentre yn Treberfedd, ar yr A48 rhwng Caerdydd a'r Bontfaen.
Dyma raglen y dydd;
11.00 yb Aelodau'r grŵp yn cludo eu hunain i faes parcio'r Fox and Hounds i gwrdd â'n tywysydd ac
ymgynnull yn Eglwys Sant Cadoc am ein sgwrs maes parcio. tua 1.00 yh Dychwelyd i'r Fox and Hounds am ginio, rhyw 300 llath ar lwybr gwastad o'r eglwys.
Yn anffodus, rhaid cyfyngu ein nifer i 30 o bobl yn unig, gyda
lleiafswm o 20 er mwyn cynnal y costiau.
Pris y diwrnod fydd £20, sydd yn
cynnwys cinio yn y Fox and Hounds, rhodd i'r eglwys, a chostau’r tywyswyr.
Os hoffech ymuno â ni, a wnewch chi lenwi’r daflen isod a’i
dychwelyd gyda’ch siec (sy’n daladwy i ‘Cyfeillion Amgueddfa
Cymru’ ynghŷd ag amlen yn dwyn stamp os nad oes gennych
gyfeiriad ebost) at:
Dorn Swaffield, Lower House Barns, Michaelston-le-Pit, Dinas Powys, Bro Morgannwg. CF64 4HE.
Tel: 029 2051 3956. E-mails to “Dorn.swaffield@gmail.com”.
Pe bai gormod o geisiadau, dewisir y rhai llwyddiannus ar hap a chaiff
y rhai nad ydynt yn cael eu dewis yn derbyn tocynnau blaenoriaeth am
ddigwyddiadau pellach.
Cofiwch gynnwys amlen yn dwyn stamp os nad oes gennych
gyfeiriad ebost neu yr ydych am dderbyn tocynnau blaenoriaeth os nad ydych yn llwyddiannus.
|