![]() |
|


| Yn
1907 prynodd yr Americanes gyfoethog Mrs Gertrude Winthrop ystad
Hidcote (287 erw) rhwng Chipping Campden a Stratford upon Avon ac wrth
wneud hynny rhoddodd y cyfle i'w mab Lawrence greu un o erddi mwyaf
prydferth Lloegr. Wedi cyrraedd, cewch gyfle i gael coffi yng nghaffi'r Ysgubor neu'r Winthrop. Ar ôl coffi, rydym yn ffodus i gael sgwrs nid yn unig gydag un o wirfoddolwyr yr ardd ond hefyd y Prif Arddwr Glyn Jones sydd hefyd wedi bod yn gweithio yng ngerddi Dyffryn ac fe gewch gwybod am y cysylltiad rhwng Dyffryn a Hidcote. Yna, gallwch edrych ar yr ardd yn eich amser eich hun. Fel yn Nyffryn mae 'ystafelloedd gardd' sydd ar eu gorau ar wahanol adegau o'r flwyddyn. Bydd Gorffennaf yn amser da i weld y borderi blodau - mae'r ffiniau coch enwog, lilis a'r hydrangeas lacecap yn ogystal â'r llwyni prin, y coed a phlanhigion anghyffredin o bob cwr o'r byd. Gellir cymryd cinio yng nghaffi'r Winthrop neu'r Ysgybor rhwng hanner dydd a 2yh. Yna byddwn yn cymryd taith fer i Chipping Campden - trysor y Cotswolds lle mae digon o gaffis i gymryd te a chewch y cyfle i ymweld ag un neu ddwy oriel. DS. Fe'ch cynghorir i wisgo esgidiau synhwyrol gan fod rhai llwybrau a grisiau yn gul ac yn anwastad a gallant fod yn llithrig ac yn wlyb. Peidiwch ag anghofio eich cerdyn Ymddiriedolaeth Genedlaethol os oes gennych un. Dyma raglen y dydd; 8.00am Y coets yn gadael blaen yr Amgueddfa Genelaethol, Parc Cathays 8.15am Codi teithwyr yn Wild Gardens Road, Parc y Rhath 10.15 am Cyrraedd Hidcote. Egwyl esmwytho a choffi yn nghaffi'r Winthrop neu'r Ysgubor. 11.00 am Sgyrsiau gan Glyn Jones a Ros Roberts 11.30am Fforio'r gerddi Cymerir cynio yn amser a ddewiswch chi. 2.45pm Gadael Hidcote 3.15pm Cyrraedd Chipping Campden am baned mewn caffi o'ch dewis chi. 5.00pm Gadael am Gaerdydd, gan gyrraedd tua 6.50yh. Cost y diwrnod fydd £20. Bydd tâl ychwanegol o £9 y person - cyfradd grŵp (cyfanswm o £29) i Gyfeillion nad ydynt yn aelodau o'r Ymddiriedaeth Genedlaethol. I ymuno â'r ymweliad, llenwch y ffurflen isod gan gynnwys siec yn daladwy i Gyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru am y swm priodol, a'i anfon at: Gwen Williams, 57 Beulah Road CAERDYDD CF14 6LU. Ffôn: 029 2062 0094 Mobeil: 07802 437316 gwen.williams@friendsmuseumwales.org.uk Amgaewch amlen barod â stamp dim ond os nad ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost neu os ydych yn dymuno derbyn taleb flaenoriaeth petai'r ymweliad yn cael ei gordanysgrifio. |
| YMWELIAD Â GERDDI PLASTY HIDCOTE a CHIPPING CAMPDEN DYDD MERCHER. GORFFENNAF 22ain 2015 Enw(au) ______________________________________________________________________________________________________ Cyfeiriad_______________________________________________________________________________________ Cod post____________________ Rhif ffôn. ____________________________ Rhif Cludffôn ____________________________ Ebost____________________________ · Cadwch _____ (l)le am yr ymweliad uchod. Amgaeaf siec am £________ yn daladwy i Gyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru (£20 y person neu £29 os nad yn aelodau Ymddiriaeth Genedlaethol) ac amlen hunangyfeiriedig â stamp os nad oes gennych e-bost. · Dymunaf/wn dal y bws yn: Parc Cathays________ Wild Gardens Road, Parc y Rhath ______ · Cadarnhaf/wn fod wedi cofrertu fel aelod(au) Cyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru · Rwyf/Rydym / Nac wyf/Nac ydym yn aelod(au) o Ymddiriedaeth Genedlaethol |