![]() |
|

| Ar
hyn o bryd mae Dr Brooks, sy’n dod o’r Ariannin ac o dras Seisnig, yn
ddarlithydd a thiwtor yn Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Hanes ac Archaeoleg,
Prifysgol Caerdydd. Ei brif feysydd diddordeb yw ieithoedd lleiafrifol
a chymunedau gwasgar yn gyffredinol, eu diwylliant a’u hunaniaeth
gyfnewidiol, a’u perthynas gyda’r wladwriaeth ganolog. Yn y sgwrs hon
bydd yn trafod y prosesau economaidd-gymdeithasol, diwylliannol a
gwleidyddol a gafodd ddylanwad ar y gymuned Gymraeg yn yr
Ariannin, ei hiaith a’i thraddodiadau, er sefydlu’r Wladfa yno 150
mlynedd yn ôl. NODER: CYNHELIR Y SGWRS HON AR DDYDD MERCHER YN YSTAFELLOEDD ORIEL. Ni fydd lle i fwy na 90 O BOBL; felly, i sicrhau lle, gofynnir yn garedig i chi archebu ymlaen llaw. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi, hefyd yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon gyda’ch siec at Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA (ffôn 029 2056 2756; ebost annsaer@talktalk.net) erbyn dydd Gwener 22 Mehefin. Noder: os byddwch yn anfon cais am fwy nag un digwyddiad, anfonwch siec ar wahân am bob un, os gwelwch yn dda. I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws). Bydd croeso cynnes iddynt. |
||
| Cyfeillion
Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Dr Walter Ariel Brooks ‘Celebrating 150 years of the Welsh settlement in Patagonia’ Dydd Mercher 1 Gorffennaf 2015 am 10.30yb yn Ystafelloedd Oriel, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru). Enw(au) ……………………………………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………………………………………………………………………………. Cod post …...………………. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |