![]() |
|

| Am
y trydydd tro, rydym wedi estyn gwahoddiad i Brian Davies, un o’n
siaradwyr mwyaf poblogaidd, i’n diddanu gyda’i drafodaethau darluniedig
ar agweddau o’n celfyddyd ddiwydiannol a’n pensaernïaeth yn ne
Cymru. I raddau, bydd yn torri tir newydd yn ei gyflwyniad heddiw ar
fasnach glo Cymru gyda Ffrainc a sefydliad y cyswllt rhwng Caerdydd a
Nantes. Bu Brian am gyfnod yn Swyddog Addysg yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd, a threuliodd saith mlynedd ym Mlaenafon tra sefydlwyd y Pwll Mawr yno; ymddeolodd yn ddiweddar o’i waith yn Guradur Amgueddfa Pontypridd. Mae galw cyson arno fel siaradwr. Cyhoeddodd nifer o erthyglau ac, yn ddiweddar, lyfryn darluniau am Bontypridd a’r ardal. |
||
| Y
tâl mynediad, i gynnwys coffi a bisgedi yn Ystafelloedd Oriel ar
ôl y sgwrs, yw £8 i’r Cyfeillion sydd yn archebu ymlaen
llaw, neu £10 wrth y drws. Er mwyn manteisio ar y pris
gostyngedig hwn, llenwch y daflen isod, os gwelwch yn dda, a’i hanfon
gyda’ch siec at Ann Saer, 15 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QA (ffôn 029 2056 2756; ebost annsaer@talktalk.net) erbyn dydd
Mercher 22 Ebrill. Noder: os byddwch yn anfon cais am fwy nag un
digwyddiad, anfonwch siec ar wahân am bob un, os gwelwch yn dda.
I arbed costau postio, ni fydd cydnabod. Gwnewch ymdrech i ddod – a
dewch â’ch ffrindiau hefyd, gan fod y digwyddiad yn agored i’r
cyhoedd am dâl o £10 (ymlaen llaw neu wrth y drws).
Bydd croeso cynnes iddynt.
Note: Cynhelir ein sgyrsiau fel arfer yn narlithfa Reardon Smith, gan ddechrau am 10.30yb.
Bydd tocynnau am y sgyrsiau, sydd yn agored i'r cyhoedd, ar gael wrth y drws. Pris mynediad yw £10 sydd yn cynnwys te/coffi a bisgedi ar ôl y sgwrs. Caiff Cyfeillion sydd yn archebu a thalu ymlaen llaw ostyngiad i £8. |
||
| Cyfeillion Amgueddfa Cymru Sgwrs gan Brian Davies, Cyn-Guradur Amgueddfa Pontypridd ‘Cardiff’s Coal Trade to France: the Origins of Cardiff’s Twinning with Nantes’ Sadwrn 25 Ebrill 2015 am 10.30yb yn Narlithfa Reardon Smith, Parc Cathays, Caerdydd Carwn archebu ..……… (l)le ar gyfer y digwyddiad uchod. Amgaeaf siec am £ ………. (yn daladwy i Cyfeillion Amgueddfa Cymru). Enw(au) ……………………………………………………………………………………………… Cyfeiriad ………………………………………………………………………………………………. Cod post …...………………. Ffôn ………………………. Ebost ………………………………… |
||
|
| Amdanom ni | Digwyddiadau | Gorffennol |
Ymunwch |
Saesneg |